Agenda
Social Media Conference Cymru 2026. Dydd Mercher, 30 Medi. Holland House, canol Caerdydd.
Social Media Conference Cymru 2026. Dydd Mercher, 30 Medi. Holland House, canol Caerdydd.
Diolch yn fawr iawn i'n noddwyr sy'n ei gwneud hi'n bosib i ni groesawu rhai o'r siaradwyr anhygoel yma i lwyfn SMC Cymru. Diolch yn arbennig i'n prif noddwyr ar gyfer 2026, yr asiantaeth prynu a threfnu cyfryngau lleol, Hello Starling.
Mewn marchnad hynod gystadleuol, mae Aldi Ireland yn sefyll allan gyda dull clir a phwrpasol ar gyfer eu cyfryngau cymdeithasol, gan brofi bod cynnwys sy'n berthnasol i'w cynulleidfa yn cael effaith. Bydd Amy yn rhannu enghreifftiau ymarferol o sut mae Aldi yn cyfleu gwerthoedd y brand drwy adrodd straeon, gan gynnal naws a phersonoliaeth gyson ar draws pob pwynt cyswllt ar-lein ac all-lein.
Prif bwyntiau:
Sut mae Aldi Iwerddon yn defnyddio cynnwys perthnasol a phwrpasol i sefyll allan mewn marchnad gystadleuol.
Ffyrdd ymarferol o gyfleu gwerthoedd brand drwy adrodd straeon.
Sut i gynllunio strategaeth gyfryngau cymdeithasol sy'n cadw'n berthnasol mewn diwylliant sy'n symud yn gyflym.
Mae Amy Lynch O'Connor yn strategydd ac arweinydd cyfryngau cymdeithasol profiadol, gyda phrofiad helaeth o ysgogi ymgysylltiad a thwf brand i gwmnïau mawr, gan gynnwys yn ei rôl flaenorol fel Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol yn Ryanair, a'i rôl bresennol yn rheoli'r tîm Digidol a Chynnwys yn Aldi. Mae hi'n adnabyddus am ei gallu i adrodd straeon yn greadigol ac am ddefnyddio data i arwain penderfyniadau golygyddol. Mae Amy wedi arwain ymgyrchoedd a aeth yn firal, wedi meithrin cymunedau ar-lein bywiog, a datblygu strategaethau amlblatfform effeithiol. Mae ganddi angerdd dros arloesi mewn cyfathrebu digidol, ac mae hi'n parhau i helpu brandiau i gysylltu â chynulleidfaoedd ac aros ar y blaen yn y byd cyfryngau cymdeithasol sy'n newid mor gyflym.
Pam mae rhai postiadau'n stopio'r sgrol tra bod eraill yn cael eu hanwybyddu? Bydd Phill Agnew, cyflwynydd Nudge, podlediad marchnata mwyaf poblogaidd y DU, yn tynnu ar wyddoniaeth ymddygiad i ddatgelu'r rhagfarnau gwybyddol sy'n llywio sut mae pobl yn ymateb i gynnwys, ac yn dangos sut gall marchnatwyr roi'r un egwyddorion ar waith i ddal sylw ac ysgogi ymgysylltiad.
Prif bwyntiau:
Pam mae'ch postiadau'n cael eu hanwybyddu er gwaethaf eich ymdrechion, a beth mae gwyddoniaeth ymddygiad yn ei ddatgelu am sut i greu postiadau sy'n ennill sylw eich cynulleidfa go iawn.
Enghreifftiau go iawn o wyddoniaeth ymddygiad ar waith mewn cynnwys cymdeithasol effeithiol.
Tips ar gyfer defnyddio'r egwyddorion hyn i'ch marchnata cyfryngau cymdeithasol eich hun.
Phill Agnew hosts Nudge, the UK's #1 marketing podcast. It's a critically acclaimed behavioural science show that has featured world-renowned guests such as Richard Shotton, Rory Sutherland, Tali Sharot, Jonah Berger, Dan Pink, and Chris Voss. With a knack for demystifying complex psychological concepts, Phill translates cutting-edge behavioural science into actionable insights for marketers, business leaders, and everyday professionals. His podcast has been downloaded by hundreds of thousands across the globe, establishing Phill as a trusted voice in behavioural marketing.
Mae Phill Agnew yn cyflwyno Nudge, podlediad marchnata rhif 1 y DU. Mae'n sioe wyddoniaeth ymddygiadol sydd wedi'i chanmol yn fawr, ac wedi croesawu gwesteion arbennig fel Richard Shotton, Rory Sutherland, Tali Sharot, Jonah Berger, Dan Pink, a Chris Voss. Mae gan Phill y ddawn i wneud cysyniadau seicolegol cymhleth yn hawdd eu deall, mae'n trosi gwyddoniaeth ymddygiadol flaengar yn syniadau ymarferol i farchnatwyr, arweinwyr busnes, a gweithwyr proffesiynol o bob math. Mae ei bodlediad wedi'i lawrlwytho gan gannoedd o filoedd o gwmpas y byd, gan sefydlu Phill fel llais dibynadwy ym myd marchnata ymddygiadol.
Nid yw pob brand yn gallu bod yn ddoniol, yn fentrus, nac yn ymatebol, ond dyw hynny ddim yn golygu na allen nhw fod yn ddiddorol. Mae'r sesiwn hon yn edrych ar sut all sefydliadau mewn meysydd difrifol neu sydd wedi'u rheoleiddio'n drwm, o elusennau i sefydliadau'r sector cyhoeddus, greu cynnwys sy'n effeithiol, yn berthnasol yn ddiwylliannol, ac yn ennill sylw heb heb risgio hygrededd.
Prif bwyntiau:
Sut i droi pynciau difrifol neu sensitif yn gynnwys diddorol.
Sut i fod yn berthnasol yn ddiwylliannol a manteisio ar trends pan fo prosesau cymeradwyo mewnol hir.
Tactegau ymarferol i elusennau, y sector cyhoeddus, a sefydliadau eraill sydd wedi'u rheoleiddio'n drwm i adeiladu presenoldeb cyfryngau cymdeithasol cryf o fewn cyfyngiadau go iawn.
Mae Eleshea Williams yn arbenigwr marchnata elusennol ac effaith gymdeithasol, gyda phrofiad mewn elusennau blaenllaw fel Amnesty International ac UNICEF UK. Mae hi'n frwdfrydig dros greu ymgyrchoedd sy'n sbarduno newid ystyrlon drwy adrodd straeon yn foesegol, ymgysylltu â phobl ifanc, ac eiriolaeth ddigidol.
Gyda chefndir mewn strategaeth cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu hawliau dynol, mae Eleshea yn helpu sefydliadau nid-er-elw byd-eang i gysylltu â chynulleidfaoedd iau a meithrin cymunedau ar-lein sy'n ysbrydoli gweithredu.
Mae hi'n eiriolwr dros wneud y diwydiant elusennol ac effaith gymdeithasol yn fwy hygyrch i bobl sydd ar ddechrau eu gyrfa, ac mae'n parhau i hyrwyddo dulliau marchnata cynhwysol a chreadigol er lles cymdeithas.
Mae Dr. Alex Connock yn archwilio sut mae AI ageiddiol - systemau sy'n cynllunio, penderfynu, a gweithredu'n annibynnol - yn trawsnewid y ffordd mae brandiau'n cyfathrebu, sut mae cynnwys yn cael ei greu, a sut mae cynulleidfaoedd yn cael eu cyrraedd. Mae'r sesiwn hon yn cynnig golwg ar yr hyn sydd eisoes yn newid, yr hyn sydd i ddod, a sut i sicrhau nad ydych chi na'ch sefydliad yn cael eich gadael ar ôl.
Prif bwyntiau:
Deall y gwahaniaeth sylfaenol rhwng AI cynhyrchiol ac AI ageiddiol, a beth mae'r gwahaniaeth hwnnw'n ei olygu ar gyfer strategaeth brand, prosesau cynhyrchu cynnwys a chynllunio ymgyrchoedd.
Dealltwriaeth o sut mae asiantau AI annibynnol yn dechrau dylanwadu ar ddarganfod cynnwys, targedu cynulleidfaoedd a chreu a dosbarthu cynnwys, a beth mae hynny'n ei olygu i weithwyr proffesiynol creadigol yn ymarferol.
Herio'ch canfyddiad o ble mae'r fantais gystadleuol, a sut mae hynny'n newid popeth i dimau cynnwys a marchnata sy'n dylunio, goruchwylio, a chydweithio ag asiantau AI.
Mae Dr Alex Connock yn academydd ym maes y cyfryngau a deallusrwydd artiffisial, ac mae wedi ysgrifennu tri llyfr sy'n cwmpasu busnes cyfoes y cyfryngau - Media Management and Artificial Intelligence (2022), Media Management and Live Experience: Sports, Culture, Entertainment and Events (2024), ac Entrepreneurship in Media and Entertainment (2025). Mae'r tri wedi'u cyhoeddi gan Routledge.
Mae hefyd yn siaradwr rhyngwladol blaenllaw ar y cyfryngau a sut mae deallusrwydd artiffisial yn ei drawsnewid.
Yn academaidd, mae Alex yn Uwch Gymrawd yn Ysgol Fusnes Saïd, Prifysgol Rhydychen, lle mae'n dysgu cyrsiau AI, Marchnata a Busnes y Cyfryngau ar lefel BA, MBA ac EMBA. Cyd-lansiodd a rhedodd ddiploma ôl-raddedig Rhydychen mewn Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Busnes rhwng 2021 a 2023, ac mae'n Ddarlithydd yn Coleg Sant Huw, Rhydychen, ym maes Rheolaeth. Enillodd wobr Rhydychen am Arloesedd Addysgu yn 2025 a gwobr Addysgu Prifysgol Rhydychen yn 2026.
Mae Alex hefyd yn Athro mewn Cyfryngau a Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol Caerwysg, ac yn Athro mewn Arloesedd yn y Cyfryngau ym Mhrifysgol Sunderland. Mae ganddo PhD mewn optimeiddio fideo ar gyfer e-fasnach, a graddau o Rydychen (PPE), Columbia (Newyddiaduraeth) ac INSEAD (MBA).
Mae Alex wedi creu a thyfu sawl cwmni cyfryngau. Rhwng 2012 a 2017, bu'n Gyfarwyddwr Rheoli ar gwmni cynhyrchu teledu a digidol Endemol Shine North (Workerbee erbyn hyn). Rhwng 1998 a 2011 cyd-sefydlodd, ac arweiniodd fel Prif Weithredwr, y grŵp cyfryngau Ten Alps (Zinc Media erbyn hyn) gyda Bob Geldof, gan gynhyrchu cannoedd o raglenni ar gyfer darlledwyr y DU a darlledwyr rhyngwladol, ynghyd â chynnwys digidol a chynnwys brand sylweddol, gan gynnwys prosiect Teachers TV Llywodraeth y DU. Mae wedi gweithio'n uniongyrchol i'r BBC, ITV, Channel 4 a chylchgrawn PEOPLE.
Mae wedi'i enwi arestr fer Entrepreneur y Flwyddyn chwe gwaith.
Roedd hon yn ymgyrch sector gyhoeddus heriol a hynod o unigryw, lle bu'n rhaid i'r Senedd ddod o hyd i'w llais a'u pwrpas fel sefydliad amhleidiol. Eu cwestiwn canolog am fisoedd oedd: Beth yw ein galwad i weithredu pan na allwn ni ddweud wrth bobl beth i'w wneud? Beth ydyn ni'n ei ddweud? Beth yw ein rôl ni?
Prif bwyntiau:
Tactegau ar gyfer gwneud gwybodaeth gwasanaeth cyhoeddus gymhleth yn hygyrch ac yn ddiddorol.
Cydbwyso risg a budd wrth weithio gyda chrewyr, dylanwadwyr a hiwmor fel sefydliad sector cyhoeddus.
Sut i adeiladu strategaeth ymgyrch pwrpasol pan nad yw galwad uniongyrchol i weithredu yn opsiwn.
Mae Kate Ellis yn Bennaeth Digidol a Brandio yn y Senedd, lle mae'n treulio ei hamser yn ceisio deall sut mae cyfathrebu gwleidyddol yn glanio ar-lein, gan gydbwyso ymddiriedaeth y cyhoedd â realiti gofodau digidol sy'n symud yn gyflym.
Mae wedi gweithio ar draws Llywodraeth y DU, gan gynnwys Stryd Downing a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar adegau mawr fel y G7 (a gweld Larry y gath y tu allan i Rif 10 o bryd i'w gilydd).
Yn wreiddiol o Bort Talbot, dechreuodd Kate ei gyrfa mewn cyhoeddi yn HarperCollins — sydd wedi dylanwadu ar ei dull o gyfathrebu.
Roedd hon yn ymgyrch sector gyhoeddus heriol a hynod o unigryw, lle bu'n rhaid i'r Senedd ddod o hyd i'w llais a'u pwrpas fel sefydliad amhleidiol. Eu cwestiwn canolog am fisoedd oedd: Beth yw ein galwad i weithredu pan na allwn ni ddweud wrth bobl beth i'w wneud? Beth ydyn ni'n ei ddweud? Beth yw ein rôl ni?
Prif bwyntiau:
Tactegau ar gyfer gwneud gwybodaeth gwasanaeth cyhoeddus gymhleth yn hygyrch ac yn ddiddorol.
Cydbwyso risg a budd wrth weithio gyda chrewyr, dylanwadwyr a hiwmor fel sefydliad sector cyhoeddus.
Sut i adeiladu strategaeth ymgyrch pwrpasol pan nad yw galwad uniongyrchol i weithredu yn opsiwn.
Mae Siân Pitman yn arbenigwr cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol sydd â diddordeb mawr mewn creu cynnwys y mae pobl yn wirioneddol eisiau ymgysylltu ag ef. Wrth weithio i'r Senedd, mae hi'n arwain ymgyrchoedd digidol a chynnwys cymdeithasol sydd wedi'u cynllunio i wneud pynciau cymhleth yn hygyrch, perthnasol a dynol, yn enwedig i gynulleidfaoedd iau, a hynny ar gyllideb fach iawn!
Mae Siân hefyd yn gopïwraig a strategydd cynnwys profiadol, yn creu cynnwys i frandiau ar draws diwydiannau teithio, ffordd o fyw, lletygarwch a thechnoleg. Yn flogwraig harddwch gynt, mae Siân yn gwerthfawrogi cynnwys da erbyn hyn, ac mae'n adroddwr straeon brwd sydd â diddordeb yn y ffordd y gall sefydliadau gydbwyso strategaeth a phersonoliaeth i feithrin ymgysylltiad cryfach ar-lein.
Y tu hwnt i fyd cyfryngau cymdeithasol, mae Siân yn jyglo bod yn geek ffilm gyda theithio, a chariad at spin classes a philates.
I'r diwydiant darlledu a ffrydio, mae cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn un o'r sianeli marchnata mwyaf pwerus, a mwyaf heriol. Mae'r panel hwn yn dod â lleisiau blaenllaw o ITV Studios, 4Studio (Channel 4) ac S4C at ei gilydd i drafod sut mae cynnwys cyfryngau cymdeithasol wedi esblygu'n offeryn hanfodol ar gyfer denu cynulleidfaoedd at raglenni, meithrin proffiliau talent a chynnal ymgysylltiad gwylwyr ar gyfer cyfresi - ond hefyd sut mae gwylio ar gyfryngau cymdeithasol bellach yr un mor werthfawr â gwylio teledu traddodiadol.
Bydd y panel yn trafod y fformatau sy'n gweithio orau ar y cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd, sut mae disgwyliadau darlledwyr am gynnwys digidol yn cynyddu, a ble mae'r ffin rhwng cynnwys marchnata a chomisiwn digidol gwreiddiol.
Prif bwyntiau:
Mae'r swm o gynnwys digidol sydd ei angen i gefnogi comisiwn darlledu nawr yn sylweddol, ac mae'r panel yn trafod sut mae'r disgwyliad hwnnw'n cael ei adeiladu mewn i friffiau, cyllidebau a llifoedd gwaith o'r cychwyn cyntaf.
Clywch sut mae ITV Studios, 4Studio (Channel 4) ac S4C yn defnyddio cynnwys brodorol i'r platfformau i ysgogi gwylio, meithrin cynulleidfaoedd ac ymestyn oes rhaglenni, a pha fformatau a dulliau sy'n effeithiol ar hyn o bryd.
Ble mae'r ffîn rhwng deunydd sy'n marchnata a deunydd sy'n gomisiwn digidol gwreiddiol?
Mae Alan yn Arweinydd Sianeli Cyfryngau Cymdeithasol yn 4Studio ac yn aelod o Bwyllgor RTS Gogledd Orllewin, gan reoli'r Strategwyr Cynnwys Uwch a'r Timau Sianeli ar draws holl genres Channel 4. Yn arweinydd tîm creadigol ac un sy'n seilio ei waith ar ddata, gyda gwobrau Cannes Lions, enwebiadau BAFTA, a nifer o Wobrau Digidol Broadcast, mae Alan wedi sbarduno twf ar rai o sianeli a brandiau cyfryngau cymdeithasol mwyaf arwyddocaol y byd teledu, gan oruchwylio cynlluniau a strategaethau cynnwys ar sawl platfform cyfryngau cymdeithasol, yn diddanu ac yn plesio miliynau bob wythnos.
Cyn ymuno â Channel 4/4Studio fel Arweinydd Sianeli Cymdeithasol ym mis Ionawr 2025, bu am yr wyth mlynedd diwethaf yn Gyfarwyddwr Creadigol Digidol yn Lime Pictures, gyda chyfrifoldeb am allbwn y tîm digidol ar draws portffolio cynyddol Lime. Mae wedi gweithio gyda darlledwyr gan gynnwys C4, ITV, Netflix a Disney ar raglenni fel Hollyoaks, TOWIE, Celebs Go Dating, Free Rein a Sexy Beasts.
Yn ystod ei gyfnod yn Lime, enillodd ei dimau wedi ennill llu o wobrau, gyda chydnabyddiaeth gan The Broadcast Digitals, Digiday, Drum, MIND, Lovies a Gwobrau RTS, yn ogystal ag enwebiadau BAFTA, Cannes Lion a Webby.
I'r diwydiant darlledu a ffrydio, mae cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn un o'r sianeli marchnata mwyaf pwerus, a mwyaf heriol. Mae'r panel hwn yn dod â lleisiau blaenllaw o ITV Studios, 4Studio (Channel 4) ac S4C at ei gilydd i drafod sut mae cynnwys cyfryngau cymdeithasol wedi esblygu'n offeryn hanfodol ar gyfer denu cynulleidfaoedd at raglenni, meithrin proffiliau talent a chynnal ymgysylltiad gwylwyr ar gyfer cyfresi - ond hefyd sut mae gwylio ar gyfryngau cymdeithasol bellach yr un mor werthfawr â gwylio teledu traddodiadol.
Bydd y panel yn trafod y fformatau sy'n gweithio orau ar y cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd, sut mae disgwyliadau darlledwyr am gynnwys digidol yn cynyddu, a ble mae'r ffin rhwng cynnwys marchnata a chomisiwn digidol gwreiddiol.
Prif bwyntiau:
Mae'r swm o gynnwys digidol sydd ei angen i gefnogi comisiwn darlledu nawr yn sylweddol, ac mae'r panel yn trafod sut mae'r disgwyliad hwnnw'n cael ei adeiladu mewn i friffiau, cyllidebau a llifoedd gwaith o'r cychwyn cyntaf.
Clywch sut mae ITV Studios, 4Studio (Channel 4) ac S4C yn defnyddio cynnwys brodorol i'r platfformau i ysgogi gwylio, meithrin cynulleidfaoedd ac ymestyn oes rhaglenni, a pha fformatau a dulliau sy'n effeithiol ar hyn o bryd.
Ble mae'r ffîn rhwng deunydd sy'n marchnata a deunydd sy'n gomisiwn digidol gwreiddiol?
Mae Claire Hoang ar hyn o bryd yn "VP" Cyfryngau Cymdeithasol yn ITV Studios, yn cefnogi dros 60 o wahanol labeli cynhyrchu a Zoo 55 gyda marchnata cyfryngau cymdeithasol. Yn y gorffennol, mae hi hefyd wedi gweithio i'r BBC ar raglenni fel Songs of Praise, The Chelsea Flower Show, Strictly Come Dancing, ac fel Rheolwr Sianel YouTube cyntaf BBC Children's. Bu hefyd yn "Exec" Digidol ar gyfer sebonau ITV ac ar gyfer The Greatest Dancer (Fremantle).
Mae ei CV hefyd yn cynnwys profiad asiantaeth, wedi gweithio gyda Dentsu Aegis a Wavemaker, yn ogystal â Thomas Cook Airlines.
I'r diwydiant darlledu a ffrydio, mae cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn un o'r sianeli marchnata mwyaf pwerus, a mwyaf heriol. Mae'r panel hwn yn dod â lleisiau blaenllaw o ITV Studios, 4Studio (Channel 4) ac S4C at ei gilydd i drafod sut mae cynnwys cyfryngau cymdeithasol wedi esblygu'n offeryn hanfodol ar gyfer denu cynulleidfaoedd at raglenni, meithrin proffiliau talent a chynnal ymgysylltiad gwylwyr ar gyfer cyfresi - ond hefyd sut mae gwylio ar gyfryngau cymdeithasol bellach yr un mor werthfawr â gwylio teledu traddodiadol.
Bydd y panel yn trafod y fformatau sy'n gweithio orau ar y cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd, sut mae disgwyliadau darlledwyr am gynnwys digidol yn cynyddu, a ble mae'r ffin rhwng cynnwys marchnata a chomisiwn digidol gwreiddiol.
Prif bwyntiau:
Mae'r swm o gynnwys digidol sydd ei angen i gefnogi comisiwn darlledu nawr yn sylweddol, ac mae'r panel yn trafod sut mae'r disgwyliad hwnnw'n cael ei adeiladu mewn i friffiau, cyllidebau a llifoedd gwaith o'r cychwyn cyntaf.
Clywch sut mae ITV Studios, 4Studio (Channel 4) ac S4C yn defnyddio cynnwys brodorol i'r platfformau i ysgogi gwylio, meithrin cynulleidfaoedd ac ymestyn oes rhaglenni, a pha fformatau a dulliau sy'n effeithiol ar hyn o bryd.
Ble mae'r ffîn rhwng deunydd sy'n marchnata a deunydd sy'n gomisiwn digidol gwreiddiol?
Mae Tecwyn Davies yn Bennaeth Digidol a Ffrydio S4C, ac mae'n gyfrifol am strategaeth gyhoeddi amlblatfform a digidol yn gyntaf S4C.
Cyn S4C, bu Tecwyn yn adeiladu cynulleidfaoedd ac yn cynyddu ymgysylltiad i frandiau chwaraeon, cyfryngau ac adloniant mawr, gyda rolau yn Nhwrnament y Chwe Gwlad, FIFA, yr Uwch Gynghrair, a Chwpan Rygbi'r Byd. Mae wedi goruchwylio creu gwefannau, apiau, gwasanaethau ffrydio a llwyfannau gemau sydd wedi cyrraedd miliynau o ddefnyddwyr ledled y byd.
Mae tîm Cyfryngau Cymdeithasol S4C yn arwain ar gynhyrchu, curadu a rhannu cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol a digidol, gan weithio'n agos gyda'r cwmnïau cynhyrchu.
I lawer o sefydliadau, nid yw llwyddiant hysbysebion cyfryngau cymdeithasol taladwy yn cael ei fesur mewn gwerthiant uniongyrchol nac incwm- sy'n gwneud profi gwerth yn her. Mae'r sesiwn hon yn ymdrin â sut i osod amcanion, beth sydd angen ei fonitro a'i dractio mewn gwirionedd, a sut i adrodd ar wir effaith cyfryngau cymdeithasol taladwy i randdeiliaid.
Prif bwyntiau:
Sut i osod amcanion ystyrlon a mesur effaith cyfryngau cymdeithasol taladwy pan nad yw llwyddiant yn ymwneud â gwerthiant yn unig.
Sut i adrodd ar werth eich ymgyrchoedd i randdeiliaid uwch mewn termau sy'n bwysig iddyn nhw.
Sut i osgoi risg i'ch sefydliad trwy wneud camgymeriadau gydag AI Meta.
Mae Francesca Farrow yn sylfaenydd Lunax Digital, asiantaeth farchnata greadigol y mae wedi'i harwain am y deng mlynedd diwethaf. Gyda phymtheg mlynedd o brofiad ym maes marchnata, mae Francesca yn helpu brandiau uchelgeisiol i ddod yn enwau amlwg yn eu diwydiant drwy farchnata sy'n seiliedig ar strategaeth a chynnwys sy'n cysylltu ac yn trosi.
Mae hi'n adnabyddus am gyfuno seicoleg, cynnwys, cyfryngau taladwy a meddylfryd masnachol, ac mae wedi gweithio gyda busnesau ar draws lletygarwch, iechyd, masnachfreintiau ac elusennau. Ochr yn ochr â'i gwaith asiantaeth, mae Francesca hefyd yn gweithio'n agos gydag entrepreneuriaid newydd drwy sefydliadau a rhaglenni gan gynnwys Welsh ICE a Busnes Cymru, gan roi cysylltiad cryf iddi â chymuned fusnes De Cymru a realiti adeiladu a thyfu brandiau modern.
Er bod chwilio drwy AI yn trawsnewid y ffordd mae brandiau'n cael eu darganfod, mae'r arwyddion hygrededd sy'n adeiladu ymddiriedaeth mewn brand wedi bod yn bwysig erioed: cysylltiadau cyhoeddus, presenoldeb cymdeithasol, adolygiadau, a sgwrs gymunedol - a bellach mae LLMs a pheiriannau chwilio'n eu gwerthuso gyda'i gilydd i benderfynu pa frandiau i'w harddangos mewn canlyniadau chwilio. Mae'r sesiwn hon yn archwilio sut i adeiladu ymddiriedaeth brand go iawn ar draws eich holl bwyntiau cyswllt.
Prif bwyntiau:
Pam na ddylech chi fuddsoddi mewn cyfryngau cymdeithasol yn unig - mae ymddiriedaeth brand yn cael ei adeiladu ar draws sianeli.
Sut mae LLMs a pheiriannau chwilio'n darllen eich presenoldeb cymdeithasol i farnu hygrededd brand, a beth mae hynny'n ei olygu i'r pwyntiau cyswllt rydych chi'n eu blaenoriaethu.
Ffyrdd ymarferol o gryfhau arwyddion ymddiriedaeth eich brand ar draws platfformau fel eich bod yn aros yn weladwy wrth i chwilio gydag AI (GEO) gynyddu.
Mae Gareth yn sylfaenydd Liberty Marketing Group, casgliad o asiantaethau marchnata digidol arbenigol, ymgynghoriaethau a darparwyr hyfforddiant. Mae'r grŵp yn cynnwys Balance (sy'n canolbwyntio ar y sector gwasanaethau ariannol) a Foundation (arbenigwyr harddwch a lles).
Mae wedi bod ym maes marchnata digidol ers dros 20 mlynedd, ac fe ddysgodd SEO a PPC iddo'i hun - nerd digidol go iawn. Am y 17 mlynedd diwethaf, mae wedi bod ar ochr yr asiantaeth, ac mae'n arwain tîm o 40 o farchnatwyr sy'n helpu ystod eang o frandiau i dyfu ar-lein.
P'un ai ydych chi'n fyfyriwr, newydd ddechrau eich gyrfa, neu'n pwyso a mesur eich cam nesaf, gall adeiladu gyrfa mewn cyfryngau cymdeithasol deimlo'n ansicr, felly pwy well i ddysgu ganddynt na phobl sydd wedi adeiladu gyrfa yn y maes a phobl sy'n recriwitio i'r maes? Ar y panel hwn, bydd rhywun sydd wedi gweithio ei ffordd i fyny i rolau blaenllaw yn y maes cynnwys a chyfarwyddwr asiantaeth sy'n recriwtio ac yn datblygu talent cyfryngau cymdeithasol a marchnata. Bydd y sgwrs yn cyffwrdd ar sut i gael eich sylwi, eich cyflogi, a'ch dyrchafu.
Prif bwyntiau:
Beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano mewn talent newydd yn 2026 - y sgiliau hanfodol i unrhyw un ar ddechrau eu gyrfa cyfryngau cymdeithasol
Beth sydd ei angen i symud ymlaen i rolau uwch mewn cyfryngau cymdeithasol - perffaith i farchnatwyr uchelgeisiol sy'n meddwl am eu cam nesaf
Cyngor gonest ar gael eich sylwi a mynd ar ôl y gyrfa rydych chi ei eisiau, lle bynnag ydych chi ar y daith ar hyn o bryd.
Mae gan Bec dros 15 mlynedd o brofiad ym maes PR a marchnata. Mae hi wedi gweithio mewn rolau mewnol ac o fewn asiantaethau i gyflawni ymgyrchoedd integredig ar draws ystod eang o sectorau, gan gynnwys marchnata llefydd a chyrchfannau, manwerthu, B2B, addysg, adeiladu a gwasanaethau proffesiynol.
Mae ei gyrfa yn cynnwys rolau gyda Landsec, perchennog eiddo manwerthu blaenllaw yn y DU, lle bu'n gweithio ar dîm marchnata Canolfan Siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd. Yn y rôl honno, helpodd i gynyddu nifer yr ymwelwyr a gwerthiant ar draws 180 o frandiau cenedlaethol ac annibynnol drwy ddigwyddiadau mawr, ymgyrchoedd hysbysebu ar raddfa fawr, rheoli cyfryngau cymdeithasol a gweithgarwch PR ledled y ganolfan.
Mae Bec hefyd wedi gweithio o fewn tîm marchnata Prifysgol Abertawe ac yn asiantaeth Golley Slater yng Nghaerdydd, gan gyflawni ymgyrchoedd i gleientiaid gan gynnwys Fferm Ffoli, Cwmni Bragdy Otley, a Willmott Dixon.
Ers ymuno â reTHINK PR & Marketing yn 2021, mae wedi arwain strategaethau marchnata a chynnwys ar gyfer Canolfan Siopa'r Cwadrant, BID Abertawe, Coleg Gŵyr Abertawe ac ystod o sefydliadau ar draws addysg, gwasanaethau proffesiynol a'r sector cyhoeddus.
Gydag angerdd dros feithrin talent y dyfodol yn y diwydiant, mae Bec yn cynnal sgyrsiau a sesiynau cyflogadwyedd a marchnata mewn ysgolion ledled Abertawe, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Dyma sgwrs onest am bwysau go iawn gweithio mewn cyfryngau cymdeithasol - y diwylliant, y camgymeriadau cyhoeddus, y cymharu, y "burnout." Mae ein siaradwyr wedi bod yng nghanol y cyfan ac maen nhw yma i rannu beth maen nhw wedi'i ddysgu, beth wnaeth helpu, a'r cyngor maen nhw'n dymuno y byddai rhywun wedi'i rhannu gyda nhw'n gynt.
Prif bwyntiau:
Safbwyntiau gonest ar y pwysau sy'n unigryw i rolau cyfryngau cymdeithasol
Y sicrwydd bo' chi ddim ar ben eich hun gyda'ch profiadau chi.
Pethau ymarferol sydd wedi helpu go iawn
Mae Lauren Hill yn gyd-sylfaenydd Marketing Collab, asiantaeth farchnata integredig sy'n gosod marchnatwyr annibynnol mewn sefydliadau, ac yn Gyd-sylfaenydd Clwb Marketing, cymuned sy'n tyfu ac yn cefnogi dros 200 o weithwyr marchnata ledled Cymru.
Gyda dros degawd o brofiad ar draws gwerthu a marchnata, gweithiodd Lauren ei ffordd i fyny i fod yn Bennaeth Marchnata, yn arwain strategaeth ac yn helpu busnesau i dyfu cyn adeiladu rhywbeth ei hun wrth greu cyfleoedd i'w hun.
O dan ei brand personol, The Honest Marketer, mae Lauren yn ysgrifennu ac yn siarad yn agored am ddatblygiad gyrfa, hyder, "imposter syndrom" a'r effaith wirioneddol sydd gan farchnata ar lwyddiant busnes. Mae'n eiriolwraig weithgar dros y diwydiant marchnata, yn herio'n rheolaidd sut mae marchnata o fewn busnesau'n gweithio, ac mae'n sefyll i fyny ei chyd-farchnatwyr pan gaiff y proffesiwn ei danbrisio neu ei anwybyddu.
Drwy ei phresenoldeb ei hun ar LinkedIn, mae Lauren wedi adeiladu cynulleidfa o farchnatwyr a pherchnogion busnes.
Mae Lauren hefyd yn eiriolwraig gref dros adeiladu brand personol yn gynnar. Mae'n siarad yn rheolaidd â myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ifanc am pam na ddylent aros nes eu bod yn teimlo'n barod cyn ymddangos ar-lein a pham y gall eu presenoldeb digidol agor drysau, creu cysylltiadau, a llunio gyrfa ymhell cyn cael rôl llawn amser am y tro cyntaf.
Dyma sgwrs onest am bwysau go iawn gweithio mewn cyfryngau cymdeithasol - y diwylliant, y camgymeriadau cyhoeddus, y cymharu, y "burnout." Mae ein siaradwyr wedi bod yng nghanol y cyfan ac maen nhw yma i rannu beth maen nhw wedi'i ddysgu, beth wnaeth helpu, a'r cyngor maen nhw'n dymuno y byddai rhywun wedi'i rhannu gyda nhw'n gynt.
Prif bwyntiau:
Safbwyntiau gonest ar y pwysau sy'n unigryw i rolau cyfryngau cymdeithasol
Y sicrwydd bo' chi ddim ar ben eich hun gyda'ch profiadau chi.
Pethau ymarferol sydd wedi helpu go iawn
Mae Sean Cook yn Bennaeth Cyfryngau Cymdeithasol yn Penguin Random House UK, ac mae wedi treulio dros ddegawd mewn rolau arweinyddiaeth cyfryngau cymdeithasol a chynnwys mewn sefydliadau gan gynnwys Deliveroo a News UK. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi adeiladu ac arwain timau sy'n cyrraedd miliynau o bobl bob dydd, gan weithio ar bopeth o eiliadau diwylliannol mawr ac ymgyrchoedd dan bwysau uchel, i'r heriau sy'n dod gyda diwydiant sydd byth yn cysgu.
Wedi'i enwi yn un o "The Drum's Future 50 marketers", ac wedi ennill gwobrau am ei waith yn ystod ei yrfa, mae Sean yn frwdfrydig dros greu amgylcheddau lle gall pobl greadigol wneud eu gwaith gorau gyda ffocws hefyd ar eu llesiant.
Mae cynnwys gan grëwyr yn perfformio'n well na chyfrifon brand o ran ymgysylltiad yn gyson, sy'n golygu bod gweithio gyda chrëwyr bellach yn rhan graidd o'r gymysgedd marchnata. Mae'r drafodaeth hon yn torri drwy'r dryswch gyda dau safbwynt - crëwr cynnwys ac asiantaeth sy'n gweithio gyda dylanwadwyr bob dydd, ar sut mae'r broses yn edrych a ble mae brandiau'n mynd o'i le. O ddod o hyd i'r partner iawn i wybod beth i'w ysgrifennu yn y contract, dyma'r sesiwn sy'n llenwi'r bwlch rhwng gwybod y dylech chi fod yn gweithio gyda chrëwyr cynnwys a gwybod sut i'w wneud yn iawn.
Prif bwyntiau:
Beth mae brîff, cyllideb a chontract teg yn edrych fel - o'r ddwy ochr
Sut olwg sydd ar berthynas dda rhwng crëwr a brand, a beth i'w osgoi
Rheolau'r ASA ar ddatgelu a sut i sicrhau bod eich ymgyrchoedd yn cydymffurfio
Mae gan Gwen dros 7 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn asiantaethau cyfathrebu creadigol. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio gyda Golley Slater, un o asiantaethau integredig mwyaf Cymru, lle mae'n arwain ymgyrchoedd PR, cyfryngau cymdeithasol a dylanwadwyr i gleientiaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Bluestone National Park Resort. Fel cyfathrebwr dwyieithog, mae ganddi ddealltwriaeth gref o sut y gall brandiau adrodd straeon dilys a deniadol drwy leisiau dylanwadwyr, gan helpu cynnwys i lanio mewn ffordd sy'n teimlo'n naturiol, yn berthnasol ac yn ystyrlon.
Mae cynnwys gan grëwyr yn perfformio'n well na chyfrifon brand o ran ymgysylltiad yn gyson, sy'n golygu bod gweithio gyda chrëwyr bellach yn rhan graidd o'r gymysgedd marchnata. Mae'r drafodaeth hon yn torri drwy'r dryswch gyda dau safbwynt - crëwr cynnwys ac asiantaeth sy'n gweithio gyda dylanwadwyr bob dydd, ar sut mae'r broses yn edrych a ble mae brandiau'n mynd o'i le. O ddod o hyd i'r partner iawn i wybod beth i'w ysgrifennu yn y contract, dyma'r sesiwn sy'n llenwi'r bwlch rhwng gwybod y dylech chi fod yn gweithio gyda chrëwyr cynnwys a gwybod sut i'w wneud yn iawn.
Prif bwyntiau:
Beth mae brîff, cyllideb a chontract teg yn edrych fel - o'r ddwy ochr
Sut olwg sydd ar berthynas dda rhwng crëwr a brand, a beth i'w osgoi
Rheolau'r ASA ar ddatgelu a sut i sicrhau bod eich ymgyrchoedd yn cydymffurfio
Mae Llio Angharad yn grëwr cynnwys teithio a bwyd o Ogledd Cymru, gydag angerdd dros hanes Cymru, busnesau lleol, ac adrodd y straeon y tu ôl i'r lleoedd sy'n gwneud Cymru mor arbennig. O gaffis bach teuluol a mannau bwyd annibynnol gwych i lefydd hyfryd i aros, trefi arfordirol a chorneli cudd, mae hi wrth ei bodd yn arddangos y bobl a'r profiadau sy'n rhoi cymeriad i Gymru.
Mae Llio â diddordeb arbennig yn ochr ddynol cynnwys - y straeon, y gwaith caled a'r personoliaeth y tu ôl i fusnes, ochr yn ochr â bwyd anhygoel, a'r lleoedd sy'n troi'n atgofion go iawn. Mae hi'n grediniol bod rhai o brofiadau gorau'r byd i'w cael yma yng Nghymru.
Mae tri aelod o'r gymuned yn cymryd y llwyfan i rannu eu barn a'u pynciau llosg ym maes cyfryngau cymdeithasol, marchnata a chreadigrwydd. Gallwch chi ddisgwyl anghytuno a safbwyntiau gwahanol.
Prif bwyntiau:
Ystod o safbwyntiau gwahanol, dilys ar y pynciau sy'n rhannu'r diwydiant ar hyn o bryd
Clywed y rhesymeg a'r ystyriaethau y tu ôl i bob ochr, fel y gallwch ffurfio barn eich hun
Yn aml iawn, does dim ateb syml sy'n gywir neu sy'n anghywir, ac mae hynny'n iawn.
Barn i'w rannu? Cysylltwch!