Bydd Social Media Conference Cymru yn dychwelyd ddydd Mercher, 30ain o Fedi 2026 yn Holland House ynghanol Caerdydd.
Oherwydd natur y digwyddiad, ni allwn gynnig ad-daliadau, ond mae croeso i chi drosglwyddo'ch tocyn i rywun arall trwy roi gwybod i ni o leiaf pythefnos cyn y digwyddiad.
Wrth gwrs! Mae nifer o'n gwesteion yn cyrraedd ar eu pennau eu hunain. Nid pawb sydd eisiau rhwydweithio ac mae hynny'n hollol iawn - mae rhai pobl yn well ganddynt ganolbwyntio ar amsugno'r holl wybodaeth a chymryd nodiadau. Mae gweithgareddau dewisol amser cinio i'ch cadw'n brysur neu gallwch eistedd a ymlacio cyn y prynhawn.
Neu os ydych chi'n awyddus i gwrdd â phobl newydd ond eisiau ychydig o hwb i ddechrau siarad, gallwn ni helpu! Amser cinio mae gennym ni 'stafell rwydweithio gyda ffyrdd ysgafn o roi hwb i chi gychwyn siarad.
Gwisga beth bynnag sy'n gyfforddus! Does dim côd gwisg penodol na ffurfiol.
Bydd y rhan fwyaf o'r sesiynau trwy gyfrwng y Saesneg, ond bydd unrhyw sesiynau trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu dynodi'n glir.
Hyd yn hyn, mae Social Media Conference Cymru wedi bod yn ddigwyddiad i ddod â phobl ynghyd felly’r unig ffordd i fwynhau’r sesiynau ar hyn o bryd fydd wrth ymuno â ni yn y lleoliad.
Bydd mynychwyr yn derbyn côd i gymryd mantais o ostyngiad ar bris ystafell yn lleoliad y gynhadledd, gwesty Holland House, Caerdydd.
Ydyn, gallwch dalu mewn 3 taliad gyda Klarna.
Oes, mae tocynnau 20% i ffwrdd o'r pris llawn ar gyfer elusennau. Ewch i weld yr argaeledd yma.
Bydd. Rydym yn ymdrechu i wneud y gynhadledd yn hygyrch, a bydd darpariaeth ar gyfer mynychwyr byddar a thrwm eu clyw - mae'n debyg y bydd hyn yn gapsiynau byw neu yn gyfieithydd BSL. Byddwn yn cadarnhau'r union ddarpariaeth yn nes at y digwyddiad. Os oes gennych ofynion mynediad penodol, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.
Ebostiwch ni ar info@socialmediaconference.cymru.