Mae Social Media Conference Cymru yn ddigwyddiad sy’n canolbwyntio ar ddod â gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol at ei gilydd am ddiwrnod o sgyrsiau, trafodaethau a sesiynau cwestiwn ac ateb gan arweinwyr ym meysydd marchnata, y cyfryngau a chyfathrebu.
Fel unigolion yn gweithio yn y byd marchnata digidol a chyfryngau cymdeithasol ers bron i ddegawd, fe welson ni'r angen am ddigwyddiad proffesiynol gyda gogwydd Gymreig ar gyfer y maes yng Nghymru.
Mae'r cyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol, i ddysgu ac i rwydweithio gyda chyfoedion yn y maes hwn yn brin iawn yng Nghymru, gyda llawer o'r digwyddiadau mawr yn digwydd tu hwnt i Glawdd Offa. Felly dyma newid hynny nawr!
Mae'r maes creadigol yng Nghymru yn ffynnu, ac mae croeso cynnes i chi yn Social Media Conference Cymru.
Alun Jones (chwith) ac Elan Iâl (dde) - cyd-berchnogion cwmni creadigol Libera, a threfnwyr Social Media Conference Cymru.
Mae Social Media Conference Cymru yn dod ag unigolion a chwmnïau ar draws Cymru ynghyd am wledd o amrywiaeth sy'n cynnwys cyflwyniadau, trafodaethau panel a sesiynau cwestiwn ac ateb.
Byddwch yn clywed gan siaradwyr trawiadol, pob un â'u persbectif a'u profiadau unigryw eu hun yn y byd cyfryngau cymdeithasol. Byddwch yn cael gofyn cwestiynau i'r arbenigwyr mewn sesiynau holi ac ateb a phaneli. Bydd digon o amser hefyd i sgwrsio a chysylltu â'r gymuned yn ystod brecwast, cinio ac egwyl.
2023 oedd blwyddyn gyntaf Social Media Conference Cymru, gyda 280 ohonoch yn dod ynghyd yng Nghaerdydd i'r gynhadledd gyntaf un. Erbyn 2024 daeth dros 330 ohonoch i Arena Abertawe am ddiwrnod o sgyrsiau a chyflwyniadau difyr.
Ein gweledigaeth yw i ddod yn ddigwyddiad parhaus yn y calendr bob blwyddyn, i ysbrydoli a chefnogi'r meysydd creadigol, marchnata a chyfryngau yng Nghymru am flynyddoedd i ddod.