SOCIAL MEDIA CONFERENCE CYMRU
30 Medi 2026. Caerdydd.
SOCIAL MEDIA CONFERENCE CYMRU
30 Medi 2026. Caerdydd.
Bydd Social Media Conference Cymru 2026 yn Holland House ynghanol Caerdydd, ddydd Mercher y 30ain o Fedi!
Ry'n ni'n un o'r cynadleddau cyfryngau cymdeithasol mwyaf yn y DU.
Os yw eich gwaith yn cyffwrdd y cyfryngau cymdeithasol, ry'n ni'n ddigwyddiad i chi. Digwyddiad i gasglu cannoedd o unigolion ynghyd ar gyfer diwrnod o sgyrsiau, trafodaethau a sesiynau holi ac ateb gan arweinwyr ym meysydd marchnata, y cyfryngau a chyfathrebu.
P'un a ydych chi'n mwynhau cwrdd â phobl newydd ac yn awyddus i rwydweithio neu os yn well gennych chi eistedd, dysgu a chymryd nodiadau yn annibynnol, bydd SMC Cymru 26 yn ddiwrnod anhygoel o drafodaethau, syniadau, cyngor ymarferol, slotiau arbenigol 1-1 i'w bwcio, 'headshots' am ddim, a chlywed gan arweinwyr cyfryngau cymdeithasol o Aldi, Amnesty International, Channel 4, Penguin Random House UK, S4C, y Senedd a llawer mwy i'w cyhoeddi eto!
The audience at Social Media Conference Cymru 2025 heard from brands including YouTube, BBC, National Trust, Hair Syrup, Welsh Government and many more. Missed the event but want to check out the vibe? See the full agenda for yourself.
Gall gweithio ym myd cyfryngau cymdeithasol fod yn unig ar brydiau. Dyna pam ry'n ni'n lansio The Loop - cymuned unigryw ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd eisiau bod yn rhan o gymuned, gofyn cwestiynau, a derbyn gwybodaeth a diweddariadau am y cyfryngau cymdeithasol.
Mae ein digwyddiadau Platfform yn gyfres o nosweithiau anffurfiol a chyfeillgar i drafod popeth socials. Dim ots os ydych chi'n rhedeg cyfrif cwmni mawr, yn marchnata'ch busnes bach eich hun, neu'n gyfrifol am gyfathrebu i elusen. Os ydych chi eisiau dysgu, rhannu, a chysylltu gydag eraill sydd yn yr un cwch, mae croeso i chi.
Mae'r digwyddiad Platfform nesaf yn digwydd yng Nghaerdydd.
BBC
ITV
S4C
Llywodraeth Cymru
Orchard
Rondo
Tinopolis
Scarlets
Sport Wales
Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Dŵr Cymru
WWF
Tiny Rebel
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Met Caerdydd
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Abertawe
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
JP Morgan Chase
West Wales Holiday Cottages
Heddlu De Cymru
NHS Cymru
Eisteddfod Genedlaethol
Urdd Gobaith Cymru
Golwg
National Trust
Trafnidiaeth Cymru
Equinox
Bright Collie
Millrace Marketing
WCS Agency
Freshwater
Amgueddfa Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Senedd Cymru
...a llawer mwy.
Barn y gymuned
"Gwreiddiol. Proffesiynol. Diddanol. Wedi mwynhau'n fawr y cyfle i drafod cyfryngau cymdeithasol o safbwynt Cymreig a rhannu arferion da gan rai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Cymru yn y maes."
"Roeddwn i wrth fy modd gyda'r amrywiaeth. Roeddech chi'n ymdrin â'r sector cyhoeddus, di-elw a masnachol. Rwy'n aml yn gweld bod y mathau hyn o bethau wedi'u hanelu at fuddiannau masnachol, felly roedd yn braf gweld y cyfan yn cael sylw. Mae gan bob diwydiant wersi ar gyfer eraill felly rwy'n siŵr bod pawb wedi cymryd rhywbeth i ffwrdd."
"Roedd y siaradwyr mor ddiddorol, nes i ddysgu llawer, roedd hefyd yn wych dysgu bod gan lawer ohonom yr un rhwystrau - digwyddiad gwych."