Nodyn gan y trefnwyr
Fe wnaethon ni sefydlu Social Media Conference Cymru yn 2023 am ein bod ni'n teimlo'n rhwystredig fod bron pob digwyddiad mawr i'r diwydiant yn Llundain, gyda phris tocyn o dros £450, ond yn bwysicach fyth, prin y byddai'r digwyddiadau yma yn cynnwys unrhyw siaradwyr nac astudiaethau achos o Gymru. Roedden ni'n gwybod bod gwaith gwych yn cael ei wneud yma, bod pobl greadigol a thalentog yn ffynnu yma, ac roeddem yn teimlo ei bod hi'n bryd rhoi digwyddiad safonol i bobl y diwydiant hwn, a chyfle go iawn i ddod at ei gilydd. Ers y cychwyn, ein nod yw dyrchafu a chefnogi'r diwydiant yma a'r bobl ynddi, felly doedd dim modd i ni anwybyddu beth sy'n digwydd nawr.
Mae'r diwydiant marchnata'n mynd trwy gyfnod cythryblus. Ry'n ni wedi colli cyfrif o sawl gwaith i ni agor LinkedIn i weld post arall gan farchnatwr wedi cael eu diswyddo, yn ogystal â rhai o'n ffrindiau a'n cysylltiadau yn y diwydiant wedi mynd trwy diswyddiadau yn y misoedd diwethaf. Ac mae hon yn duedd ehangach yn y diwydiant. Mae'n destun pryder go iawn. Cyrhaeddodd rhybuddion diswyddo ledled y DU eu lefel uchaf ers y pandemig yn 2025, ac mae ffigyrau cynnar 2026 yn dangos nad yw pethau'n gwella. Arhosodd cyllidebau marchnata yn fflat ar dwf o 0.0% yn chwarter olaf 2025, un o'r canlyniadau gwannaf y mae arolwg IPA Bellwether wedi'i gofnodi. Mae timau cyfathrebu, digidol, marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, hysbysebu a chreadigol i gyd wedi gweld yr effaith.
Felly os ydych wedi cael eich diswyddo o rôl yn y diwydiant hwn yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf, ac yn dal i chwilio am eich rôl nesaf, gallwch ymgeisio am un o 10 tocyn am ddim i Social Media Conference Cymru 2026.
Ry'n ni'n gobeithio bydd y diwrnod yn eich ysbrydoli, yn eich helpu i deimlo'n obeithiol am y diwydiant, a - pwy a ŵyr - yn eich cysylltu â rhywun all arwain at rywbeth.
Tîm SMC Cymru
Gallwch ymgeisio os:
Rydych wedi'ch lleoli yng Nghymru
Rydych wedi cael eich diswyddo o rôl ym maes marchnata, cyfathrebu, digidol, cynnwys, cysylltiadau cyhoeddus, hysbysebu, newyddiaduraeth/cyfryngau, neu rôl greadigol gysylltiedig - o fewn y 12 mis diwethaf
Rydych chi'n dal i chwilio am waith - heb ddechrau rôl amser llawn newydd ers hynny
Os ydych wedi cael eich diswyddo ond wedi dechrau rôl amser llawn newydd yn y diwydiant ers hynny, nid yw'r cynnig hwn ar eich cyfer chi y tro hwn - mae hwn yn benodol ar gyfer pobl sy'n dal allan o waith ac yn chwilio am eu rôl nesaf.
Llenwch y ffurflen fer isod.
Byddwn yn gofyn i chi am:
Eich enw a manylion cyswllt
Cadarnhad eich bod wedi'ch lleoli yng Nghymru
Y maes roeddech yn gweithio ynddo a phryd y cawsoch eich diswyddo
Cadarnhad nad ydych mewn gwaith amser llawn ar hyn o bryd
Dolen i'ch proffil LinkedIn
P'un a ydych eisoes wedi prynu tocyn ar gyfer SMCC26 (gweler isod)
Does dim angen anfon unrhyw brawf ffurfiol o ddiswyddiad atom - rydym yn gofyn i chi hunan-ddatgan, ac efallai y byddwn yn dilyn i fyny gydag unrhyw un a ddewisir i wirio'r manylion.
Bydd 10 person yn derbyn tocyn am ddim. Os cawn fwy o geisiadau na hynny, bydd tocynnau'n cael eu dyrannu ar hap ar ôl y dyddiad cau.
Mae gan bawb sy'n bodloni'r meini prawf siawns gyfartal. Os ydych eisoes wedi prynu tocyn ar gyfer SMCC26 ac yn bodloni'r meini prawf, mae croeso i chi ymgeisio - os cewch eich dewis, byddwn yn ad-dalu'ch tocyn yn llawn.
Mae'r ceisiadau'n cau am 6yh, ddydd Gwener y 18fed o Fedi 2026. Byddwn yn cysylltu â phawb yn fuan wedyn.