Platfform: Caerfyrddin
🗓️ 4.2.2026
📍 Cwrw, Caerfyrddin
⏰ 6yh-8:30yh
Nosweithiau anffurfiol a chyfeillgar i drafod popeth socials - rhwydweithio, dysgu a sgwrsio dros ddiod.
🗓️ 4.2.2026
📍 Cwrw, Caerfyrddin
⏰ 6yh-8:30yh
Nosweithiau anffurfiol a chyfeillgar i drafod popeth socials - rhwydweithio, dysgu a sgwrsio dros ddiod.
Mae Platfform yn gyfres o nosweithiau anffurfiol a chyfeillgar ledled Cymru wedi'u trefnu gan Social Media Conference Cymru.
Dim pwysau. Dim siwt a thei. Dim sleidiau corfforaethol.
Dim ond pobl go iawn yn siarad am y pethau go iawn sy'n digwydd yn y byd cyfryngau cymdeithasol - yr heriau sy'n cadw ni'n effro, y llwyddiannau bach sy'n teimlo'n fawr, a'r syniadau sydd angen lle diogel i dyfu.
Os ydych chi'n postio, yn cynllunio, neu'n poeni am gyfryngau cymdeithasol - mae hwn i chi.
Dim ots os ydych chi'n rhedeg cyfrif cwmni mawr, yn marchnata'ch busnes bach eich hun, neu'n gyfrifol am gyfryngau cymdeithasol elusen leol. Os ydych chi eisiau dysgu, rhannu, a chysylltu gyda phobl eraill sy'n deall yr un heriau, mae croeso i chi.
Mae'r digwyddiad hwn wedi'i noddi gan Mentera.
"Mae Mentera'n hynod falch o noddi'r digwyddiad hwn yng Nghaerfyrddin, lle mae gennym swyddfa a chysylltiadau cryf. Gyda thros 35 mlynedd o brofiad o gefnogi busnesau Cymru, rydym yn credu'n gryf fod cyfathrebu digidol a marchnata o'r radd flaenaf yn allweddol i sicrhau bod busnesau lleol yn cyrraedd safon fyd-eang, gan arwain at economi ffyniannus i Gymru."
6yh - Croeso! Cuddio o’r oerfel, diod a sgwrs 🍸
6:30yh - Sgwrs banel: marchnata busnesau bach
Lisa Jones, Diod
Lowri Johnston, Blodau Caredig
7:00yh - Cyflwyniad i waith Mentera ar y cyfryngau cymdeithasol
Gwenan Davies
Arweinydd Tîm Cyfathrebu a Marchnata Corfforaethol, Mentera
7:15yh - Egwyl
7:45yh - Tyfu personoliaeth brand ar TikTok
Sgwrs gyda Gwenan Gravell, Swyddog Cyfryngau a Chyfathrebu Y Scarlets
8:15yh - Hysbysebion cyfryngau cymdeithasol - ble i ddechrau?
Elan Iâl, Libera
8:30yh - Bar ar agor, arhoswch o gwmpas am sgwrs, paned neu rywbeth cryfach 😜