Ymuna â'r rhestr aros i gael gwybod pan fydd drysau'n agor y tro nesaf.
Un nod sydd gan The Loop: dod â phobl sy'n gweithio ym maes y cyfryngau cymdeithasol ynghyd.
Ry'n ni'n gwybod pa mor unig all fod gweithio mewn cyfryngau cymdeithasol. Dyna pam rydym yn lansio The Loop – aelodaeth gymunedol wedi’i hanelu at weithwyr proffesiynol sydd eisiau aros yn gysylltiedig, wedi’u hysbrydoli, ac yn hyderus yn eu marchnata cyfryngau cymdeithasol.
Beth sy'n rhan o The Loop?
✨ Ask the experts - Sesiynau Holi ac Ateb byw misol lle fydd arbenigwyr o'r diwydiant ar gael i ateb eich cwestiynau. Cyngor arbenigol, heb y ffioedd trwm.
💬 Cymorth - chat gymunedol 24/7. Cyfle i gysylltu gyda phobl eraill yn y diwydiant dros WhatsApp. Cyfle i rannu profiadau, gofyn cwestiynau a thyfu eich cysylltiadau. Nid ydych chi ar eich pen eich hun.
📩 Y wybodaeth ddiweddara a tyfu'ch hyder - Unwaith yr wythnos, byddwch chi'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfryngau cymdeithasol, syniadau cynnwys, a mewnwelediadau pwysig, yn syth i'ch mewnflwch. Dim jargon, dim traethodau. Gwybodaeth y gallwch chi ei darllen mewn 2 funud.
👋 Gofod diogel - Oes gennych chi gwestiwn neu her yn eich wynebu? Bydd rhywun arall yn bendant yn teimlo'n debyg i chi. Mae The Loop yn ofod diogel i chi ofyn, i ddweud eich dweud, a rhannu eich profadau chi; boed yn dda neu'n ddrwg.
Ar gyfer pwy?
Mae The Loop ar gyfer pobl sydd eisoes yn gweithio ym maes marchnata cyfryngau cymdeithasol. P'un a ydych chi'n hunangyflogedig neu'n gweithio mewn tîm bach, yn gynnar yn eich gyrfa ac yn awyddus i ddatblygu eich arbenigedd, os ydych chi erioed wedi teimlo'n unig ac yn ansicr ble i droi i ofyn cwestiynau, mae The Loop ar eich cyfer chi.
Sut mae'n gweithio
Unwaith y byddwch wedi tanysgrifio, cewch eich ychwanegu at gymuned WhatsApp - bydd hwn yn ofod diogel i chi ofyn cwestiynau a dysgu gan eraill yn yr un cwch â chi.
Byddwch yn ymuno â sesiynau Ask The Expert misol yn WhatsApp. Cyflwynwch eich cwestiynau'n ddienw neu ymunwch yn fyw, o unrhyw le - does dim angen bod o flaen gliniadur ar adeg benodol.
Byddwch chi'n cael cylchlythyr wythnosol yn syth i'ch mewnflwch (un y byddwch chi am ei ddarllen - dim paragraffau mawr, addo!) a gallwch chi ei ddarllen mewn 2 funud.
Faint mae'n costio?
Sesiynau holi ac ateb gydag arbenigwyr, cefnogaeth yn y grŵp WhatsApp, a chylchlythr wythnosol - am 9.99 y mis (33c y diwrnod!) Llai na'ch coffi dyddiol, mwy o effaith ar eich gyrfa. Gallwch ganslo unrhyw bryd.
Diddordeb clywed mwy? Ymuna â'r rhestr aros i glywed pan fydd drysau'n agor nesaf.
Nid ydych chi'n ymrwymo i unrhyw beth wrth ymuno â'r rhestr aros.
Mae The Loop yn aelodaeth gymunedol newydd sbon.
Byddwch chi'n cael cyfle i gyflwyno adborth ar eich profiad, gan helpu i lunio dyfodol y gwasanaeth. Ry'n ni'n barod i wrando, ac am glywed eich barn onest wrth adeiladu'r aelodaeth hon ar gyfer unigolion proffesiynol fel chi.