Y Lleoliad
Social Media Conference Cymru 2026. Dydd Mercher, 30 Medi. Holland House, canol Caerdydd.
Social Media Conference Cymru 2026. Dydd Mercher, 30 Medi. Holland House, canol Caerdydd.
Mae Gwesty Holland House by Sundays wedi ei leoli yng nghanol Caerdydd. Wedi ei adeiladu'n wreiddiol ym 1968, mae Gwesty Holland House Caerdydd yn westy 15 llawr 4 seren sy'n cynnig cyfleusterau moethus - sba modern, campfa â chyfarpar da, bwyty, a mannau digwyddiadau helaeth - i gyd o fewn canol dinas fywiog Caerdydd.
Cynhelir y gynhadledd yn Ystafell Calon ar y llawr gwaelod ac Ystafell Caernarfon ar y llawr cyntaf. Mae'r lleoliad yn gwbl hygyrch ac mae lifftiau ar gael i'r llawr cyntaf.
Côd Post: Defnyddiwch CF24 0DD
Tren:
Yr orsaf drenau agosaf ydy Caerdydd Heol Y Frenhines (tua 8 munud ar droed).
Y prif orsaf drenau agosaf ydy Caerdydd Canolog (tua 23 munud ar droed a rhai munudau mewn tacsi).
Mae trenau rheolaidd iawn yn rhedeg rhwng Caerdydd Canolog a Chaerdydd Heol Y Frenhines (1 stop) ac yn cymryd rhai munudau.
Mae gan orsaf drenau Caerdydd Canolog gysylltiadau ardderchog â phob rhan o’r DU. Mae canol Llundain lai na 2 awr i ffwrdd ar y trên (bob 30 munud fel arfer) ac mae trenau rheolaidd yn cysylltu Caerdydd â gorllewin Cymru, gogledd Cymru, Bryste, Caerfaddon, Birmingham, Manceinion a Chaeredin.
Car:
Gadewch draffordd yr M4 wrth gyffordd 33 (o'r gorllewin) neu gyffordd 30 (o'r dwyrain). Mae gwesty Holland House rhai milltiroedd o'r M4.
Parcio:
Mae nifer *cyfyngedig* o lefydd parcio taledig ar gael yn y gwesty (gan gynnwys 5 lle parcio bathodyn glas) - y cyntaf i'r felin. Mae parcio talu ac arddangos ar gael ar The Parade, East Grove, West Grove a strydoedd lleol eraill. Mae opsiynau lleol eraill yn cynnwys NCP Cardiff Knox Road, NCP Cardiff Adam Street ac NCP Cardiff Dumfries Place.
Awyren:
Mae Maes Awyr Caerdydd tua 25 munud mewn car o Holland House a chanddi hediadau uniongyrchol i/o nifer o ddinasoedd gwahanol, gan gynnwys Dulyn (Ryanair), Belfast (Aer Lingus) ac Amsterdam (KLM). Mae opsiynau eraill yn cynnwys maes awyr Bryste, maes awyr Birmingham a maes awyr Heathrow.
Gwestai:
Mae gan Holland House 172 o ystafelloedd gwely ar y safle. Gallwn gynnig pris arbennig i'r rheiny sy'n mynychu'r gynhadledd. Gwybodaeth ar gael ar y dudalen Cwestiynau cyffredin. Mae gwestai lleol eraill yn cynnwys easyHotel Cardiff, Premier Inn Cardiff City Centre (Queen Street), Leonardo Hotel Cardiff a gwestai eraill yng nghanol Caerdydd.
"Awyrgylch bositif, cyffrous a chyfeillgar. Pawb yn gefnogol o'i gilydd ac ystod defnyddiol o bynciau trafod."
"Amrywiaeth o bynciau, cyngor da, sesiynau diddorol."
"Loved the breakout options, so we could move around and go to different talks. Really loved the talks in Welsh (not being a Welsh speaker), and the importance that's put on Welsh. Loved the public sector aspects."